I’r gorllewin o Gaerdydd mae’r ffin gydag ardal wledig Bro Morgannwg, tra i’r dwyrain mae dinas Casnewydd. I’r gogledd mae Cymoedd De Cymru ac i’r de caiff y ffin ei diffinio gan aber yr Afon Hafren a Môr Hafren. Mae’r Afon Taf yn troelli trwy ganol y ddinas ac, ynghyd a’r Afon Elai, mae’n llifo i lyn dŵr croyw Bae Caerdydd. Llifa trydedd afon, y Rhymni, trwy ochr ddwyreiniol y ddinas cyn llifo'n uniongyrchol i aber yr Afon Hafren.
Image not found. Please update the content of this webpart.
Fi yw Josh Jones, Comander Rhanbarth Caerdydd. Mae’n bleser mawr gennyf eich croesawu i dudalennau Caerdydd o einbobi.com. Fel un sy’n byw yn y ddinas rwy’n credu ei fod yn lle gwych i fyw ag i fagu teulu ac rwy'n falch iawn i wasanaethu cymunedau Caerdydd.
Gyda chymorth fy nghydweithwyr rydym eisiau gwneud Caerdydd yn un o’r dinasoedd mwyaf diogel yn y Deyrnas Unedig. Rhoddaf i chi ein hymrwymiad i wneud pob ymdrech i ddeall eich gofynion ac i liniaru'r materion sy’n eich pryderu. Trwy weithio gyda’n gilydd gallwn wneud Caerdydd yn lle diogelach i fyw, i weithio ac i ymweld ag ef.