Bwriad cyfarfodydd Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd (PACT) yw rhoi cyfle i chi amlygu materion cymunedol sy'n effeithio ar eich bywyd ac i gynorthwyo mewn penderfynu pa faterion gaiff eu trin fel blaenoriaeth. Nid yw'n gymhorthfa i drafod pryderon a materion unigol. Mae eich tîm plismona cymdogaeth yn cynnal y rhain ar wahân. Mae'r cyfarfodydd hefyd yn rhoi cyfle i chi ddod i adnabod eich swyddog lleol.
Er gwaethaf y newyddion da fod troseddu yn gyffredinol yn syrthio cydnabyddir nad yw ofn trosedd a pha mor ddiogel y teimlwn yn syrthio i’r un graddau. Drwy'r cyfarfodydd fe welwch nad yw canfyddiadau trosedd yn aml yn adlewyrchu'r sefyllfa go iawn. Tawelir eich meddwl hefyd drwy weld yr heddlu a'u partneriaid yn ymdrin â'r materion sydd fwyaf pwysig i chi.
Mae gan bob ward yn ardal Heddlu De Cymru berson cyswllt a enwir. Gall y person hwnnw fod yn Swyddog Cymorth Cymunedol neu’n Swyddog Heddlu a fydd yn aelod o dîm mwy o faint sydd â’u gorchwyl i ddelio â blaenoriaethau eich cymuned chi ar ôl gwrando arnoch chi.
Gall person cyswllt a enwir o Heddlu De Cymru neu o'r awdurdod lleol gadeirio cyfarfodydd PACT, ond y nod yw bod aelod o'r gymuned yn ymgymryd â'r gwaith gan mai eich cyfarfodydd chi yw cyfarfodydd PACT. Penderfynir ar hyd at dri blaenoriaeth yn ystod y cyfarfod er mwyn i'r heddlu, y partneriaid a’r cymunedau eu datblygu. Yn y cyfarfod PACT nesaf bydd cyfle i’ch hysbysu chi am ddatblygiadau mewn perthynas â’r blaenoriaethau a flaenoriaethwyd. Gobeithiwn y byddwch yn gweld bod cymunedau’n gweithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu ac asiantaethau eraill yn gwneud gwahaniaeth.
Mae ar y broses yma angen eich llais chi er mwyn sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y materion sy’n berthnasol i’ch ardal chi. Os na ddywedwch, ni allwn wrando.
Ein hardal ni - ein heddlu ni - ein barn ni