
Tîm Trwyddedu Heddlu Caerdydd
Adran Trwyddedu Caerdydd sy’n gyfrifol am fonitro a rheoleiddio safleoedd trwyddedig ledled Dinas Caerdydd. Mae 1300 o safleoedd trwyddedig ledled Caerdydd ar hyn o bryd a daw’r nifer uchel yma â’i heriau ei hun.
Y Sarsiant Scott Lloyd sy’n gyfrifol am redeg y tîm o ddydd i ddydd, ac mae’r tîm yn cynnwys 4 swyddog arall. Y rhain yw PC Tony Roach, PC Lynda Howells, Tony Bowley a Huw Tyler. Mae’r tîm yn eithriadol o ddynamig ac mae pob aelod yn frwd dros ddarparu’r gwasanaeth gorau posib ar gyfer y gymuned yr ydym yn ei gwasanaethu. Mae gan aelodau’r tîm wybodaeth helaeth am blismona Caerdydd ac maent yn gallu dibynnu ar dros 90 mlynedd o brofiad o blismona.
Rydym yn gyfrifol am fonitro’r System Goleuadau Traffig, sef erfyn cudd-wybodaeth gynnar Heddlu De Cymru sy’n canfod safleoedd trwyddedig problemus.
Trwy weithio mewn partneriaeth gyda’r rheolwyr a staff mewn safleoedd trwyddedig mae troseddau sy’n gysylltiedig ag alcohol y gellir eu priodoli i safleoedd trwyddedig wedi cyrraedd y lefel isaf erioed.